{ko i ferch}
1 Val yr oeddwn ymannos
2 druan iawn am drayan nos
3 yn rhodio rhydaer ddisgwyl
4 rhy addwyn oedd rhuw ddyn wyl
5 ger llys eiddig ai briod
6 gwaedde'm ol pegwydde' mod
7 edrychais drychaf drymvryd
8 tewgaer gylch y tuy igyd
9 Cannwyll drwy fenestr wydrlen
10 gwynvyd gwyr oedd ganvod gwen
11 llyna ganvod om ystryw
12 yr vn vvn oreu yn vyw
13 llariaidd yw llun bun benwyr
14 ai lliw val Bronwen merch llyr
15 nid oedd lvn dydd oleuni
16 na haul wybr loywach no hi
17 mawr yw miragl i gwynbryd
18 mor deg yw rhac dyn byw or byd
19 my nais gyvarch gwell iddi
20 modd hawdd im atebawdd hi
21 doethom hyd am y tervyn
22 yn dau ni wybu vn dyn
23 ni bu rhyngom vwch trigair
24 obu ni wybu neb air
25 ni cheisiais wall ar v'anrhaith
26 pei ceisiwn ni chowswn chwaith
27 [349] dwy vchenaid a roesom
28 a dorre'r rhwym dur y rhom
29 ar hynny cenais yn iach
30 veinir ni bu neb vwynach
31 vn peth a wnaf yn vy myw
32 peidio' dwedyd pwy ydyw
Dauid ap Gwilim